Rohypnol
Rohypnol (Flunitrazepam)
Enwau ar y stryd
Roofies, ‘Cyffur Trais ar Ddêt’, Rophies, Roach, Rope, R2, Mexican Valium
Gwybodaeth gyffredinol
Mae Rohypnol yn dawelydd a ddisgrifir gan y cyfryngau fel cyffur ‘trais ar ddêt’. Caiff ei ddefnyddio’n feddygol fel triniaeth tymor byr ar gyfer anhwylderau cysgu. Honnir bod y tabledi hyn mewn rhai achosion wedi eu rhoi yn niodydd menywod gan achosi iddynt fynd naill ai’n anymwybodol neu ddioddef colli cof tymor byr gan eu gwneud yn agored i ecsbloetiaeth a thrais rhywiol. Erbyn hyn mae cwmnïau’n gwerthu cynhyrchion megis stripiau neu fatiau cwrw, y gellir eu defnyddio’n anamlwg i brofi am y grŵp cyffuriau benzodiazepine a gysylltir yn fwyaf cyffredin gyda Thrais ar Ddêt.
Effeithiau
- Llonyddu drwy lesgau’r system nerfol ac ‘arafu’r’ ymennydd a’r corff.
- Rhyddhad rhag tensiwn a phryder, gan helpu’r defnyddiwr i deimlo’n dawel ac wedi ymlacio.
- Cymorth gydag insomnia.
Risgiau
- Mae Rohypnol yn achosi dibyniaeth mewn bodau dynol.
- Gall ymataliad achosi symptomau diddyfnu megis cur pen, cyfog, chwydu, lleihad mewn canolbwyntio, poenau yn y cyhyrau, cryniadau, pryder, tensiwn, ac iselder.
- Gall diffrwythder, merwino eithafion y corff, colli hunaniaeth, rhithweledigaethau, deliriwm, confylsiynau, sioc a chwymp cardiofasgwlaidd hefyd ddigwydd.
- Gall ffitiau diddyfnu hefyd ddigwydd wythnos neu fwy wedi rhoi’r gorau i’w ddefnyddio. Rhaid i driniaeth ar gyfer dibyniaeth fod yn raddol, gyda’r defnydd yn cael ei atal yn raddol.
Dosbarth
Dosbarth C