Rhannu Arfer Gorau: Camddefnyddio Sylweddau, Diogelach ar y Rhyngrwyd a Pherthynas Ddiogel


Flash is required!

Cynadleddau i Ddiweddaru Athrawon ar y Tueddiadau Cyfredol yng Nghymru ac i Hyrwyddo Arfer Gorau Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

A wyddech chi?

  1. Canfuwyd 412 o gyffuriau anterth cyfreithlon newydd yn y 2 flynedd diwethaf, gyda 4 gwaith cymaint yn cael eu canfod yn y DU nag yn unrhyw wlad arall
  2. Yng Nghymru, yn 2010, bu 4,782 o blant a phobl ifanc yn rhan mewn achosion cam-drin domestig
  3. Darganfu 1 o bob 8 o bobl ifanc 8-18 oed ar-lein bod rhywun yr oeddent yn cyfathrebu â hwy yn oedolyn oedd yn esgus bod yn llawer iau

Ym mis Ionawr mynychodd 143 o athrawon ysgolion uwchradd dair cynhadledd a gynhaliwyd ledled Cymru ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Canolbwyntiodd y cynadleddau ar arfer gorau mewn addysg defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig a diogelwch ar y rhyngrwyd fel rhan o’r cwricwlwm ABCh. Trefnwyd pob diwrnod unigol ar ffurf sesiynau cylchol i godi ymwybyddiaeth o natur newidiol cyflym defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, perthynas bersonol ddiogel a diogelwch ar y rhyngrwyd yng Nghymru. Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru, yr NSPCC, Hafan Cymru a Wise Kids gyda chefnogaeth CEOP, yr asiantaeth Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein.

Yn ystod y dydd archwiliwyd pynciau megis twf mewn defnydd cyffuriau anterth cyfreithlon, adnabod cyffuriau, deddfwriaeth cam-drin domestig, sut i rymuso pobl ifanc tuag at brofiadau ar-lein diogel a chadarnhaol a methodoleg ac adnoddau i gynorthwyo i addysgu’r pynciau sensitif hyn yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y dyddiau’n llwyddiannus gyda 100% o’r cynadleddwyr yn graddio’r hyfforddiant cyffredinol yn ardderchog neu’n dda iawn. Dywedodd yr athrawon eu bod yn dychwelyd i’r ysgolion gyda’r bwriad o ddiweddaru eu cynlluniau gwaith a pholisïau ABCh a rhoi adborth i aelodau eraill o staff fel rhan o ddull ysgol gyfan