Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Mynegai Cyffuriau a Cham-drin Sylwedd

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sydd yn newid y ffordd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.

Beth yw ystyr yr ymadrodd ‘dosbarthiad cyffuriau’?

Y brif ddeddfwriaeth sydd yn dosbarthu cyffuriau anghyfreitlon yn nosbarth A, B neu C yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Adnabyddir y cyffuriau hyn fel sylweddau dan reolaeth, a chyffuriau Dosbarth A ydy’r rhai a ystyrid yn fwyaf niweidiol. Y mae tramgwyddau dan y ddeddf yn cynnwys:

  • Meddiant sylwedd dan reolaeth yn aghyfreithlon
  • Meddiant sylwedd dan reolaeth gan fwriadu ei gyflenwi
  • Cyflenwi neu gynnig cyflenwi cyffur dan reolaeth (hyd yn oed pan na fydd codiad tâl am y cyffur)
  • Gadael i adeilad y byddwch chi’n byw ynddo neu’n ei reoli gael ei ddefnyddio’n anghyfreithlon ar gyfer cynhyrchu neu gyflenwi cyffuriau dan reolaeth 

Y mae pob tramgwydd yn cario cosb wahanol.

Cliciwch ar y dosbarth isod i ymweld a'r dudalen perthnasol:

Cliciwch isod i gael gwybodaeth Meddiant ar gyfer defnydd personol Meddiant gan fwriadu ei gyflenwi Atafaeliad asedau
Dosbarth A Hyd at 7 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn Hyd at oes yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn Os bydd rhywun yn cael ei ddal yn gwneud elw o drosedd, y mae’r Heddlu yn gallu atafaelu’n gyfreithlon asedau’r troseddwr e.e. tŷ, cyfrif banc ayyb ac yn aml y mae’r arian wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ataliad.
Dosbarth B Hyd at 5 mlynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn Hyd at 14 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn
Dosbarth C Hyd at 2 flynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn Hyd at 14 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn
Di-ddosbarth
  • Nid yw pob cyffur yn anghyfreithlon, ond nid yw hynny’n golygu eu bod nhw ddim yn niweidiol
  • Darllen am y risgiau sylweddau a alwyd Cyffuriau Newydd Mas (neu NEDs am "New and Emerging Drugs"), sylweddau seicoweithredol newydd, (neu NPSs am "Novel Psychoactive Substances") neu "penfeddwau cyfreithlon" – "legal highs"