Datganiad Preifatrwydd Pal Post

Mae datganiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Darperir yr ap Pal Post (“Pal Post”) gan Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, sef partneriaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru.

Nid yw Pal Post yn cadw nac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol. Mae unrhyw wybodaeth a roddir i Pal Post yn cael ei dileu o’r ddyfais ar ôl gorffen â’r ap Pal Post neu ar ôl diffodd y ddyfais.

Rydyn ni’n derbyn rhai ystadegau gan Google Play am sut y defnyddir Pal Post, er enghraifft, sawl gwaith mae’r ap wedi’i lawrlwytho a’r mathau o ddyfeisiau mae’n cael ei ddefnyddio arnynt. Cyflwynir yr ystadegau hyn i ni ar ffurf ddienw lle nad oes modd adnabod yr un unigolyn.