Cymhwyster CA3 Achrededig Agored Cymru
Rydym ni wedi datblygu unedau achrededig CA3 lefel 2 (cyfwerth â TGAU gradd C) a lefel 1 a lefel Mynediad o 10 gwers gydag Agored Cymru. Mae'r gwersi'n canolbwyntio ar chamddefnyddio alcohol, meddiant a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Diogelwch ar y Rhyngrwyd a chamdriniaeth domestig. Fel rhan o'r uned 10 gwers, mae disgyblion yn derbyn 5 gwers wedi'u cyflwyno gan Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion, a gefnogir gan 5 gwers a gyflwynir gan yr athro dosbarth.
Asesir y gwaith a gyflawnir gan yr athro dosbarth, a'i wirio gan y gwiriwr mewnol, ac yn olaf, mae'n cael ei basio gan y gwiriwr allanol.
Anelir yr uned newydd o wersi achrededig at ddisgyblion CA3. Er bod y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn gyffredinol yn ei ymagwedd ar gyfer pob unigolyn ifanc, mae'r uned achrededig newydd yn caniatáu ar gyfer datblygu a gweithredu ymagwedd mwy targedig â disgyblion a nodir yn rhai sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu neu'n bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Adnoddau Agored Cymru
Ceir hyd i ddisgrifiad o'r uned, llyfryn gwaith sy'n darparu ar gyfer lefel Mynediad, 1 a 2 a'r matrics asesu ar gyfer dysgwyr ar wefan Agored Cymru:
Gwybodaeth Uned: Atal Trosedd a Chadw’n Ddiogel
Côd Uned | Lefel | ID Uned | Cyswllt |
---|---|---|---|
QH5E3CY002 | Mynediad 3 | CDJ457 | www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ457 |
QH51CY005 | Lefel 1 | CDJ458 | www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ458 |
QH52CY004 | Lefel 2 | CDJ459 | www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ459 |