SchoolBeat.cymru
ac Elusen Missing People

Llinell Gymorth Runaway

Pobl ar Goll

Ynglŷn â’r gwasanaethau hyn

Mae Runaway Helpline yna i wrando a chynnig cymorth ar 116000 ac 116000@runawayhelpline.org.uk.

Yn SchoolBeat rydym yn falch o hybu gwaith ein partneriaid, yr elusen Missing People. Nod y cyflwyniad yw codi ymwybyddiaeth o’r linell gymorth Runaway drwy edrych ar yr ystadegau a rhai o’r rhesymau pam fod pobl yn mynd ar goll, yn ogystal a’r risgiau y gallen nhw fod yn eu hwynebu. Yn y cyflwyniad, gall blant a phobl ifanc ddarganfod sut y gallan nhw helpu, a dysgu am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd ac unigolion gan Missing People.

Gweithio i gefnogi pobl sydd ar goll

Rydym yn poeni am les a diogelwch ein pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae ein Rhaglen Heddlu Ysgolion yn galluogi dysgwyr a’u rhieni neu ofalwyr i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg cywir, ac i ddeall sut i gadw’u hunain ac eraill yn saff.

Cyflwyniadau Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer ein Swyddogion Heddlu Ysgolion, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae’r gwasanaeth cynradd yn addas ar gyfer CA1 a CA2, ac mae’r cyflwyniad uwchradd yn addas ar gyfer CA3 a CA4. Mae’r adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac maen nhw’n cynnwys nodiadau manwl i gefnogi.

Gwasanaeth Cynradd - Llinell Gymorth Runaway (PPTX)
Gwasanaeth Uwchradd - Llinell Gymorth Runaway (PPTX)