SchoolBeat.cymru

Rhedeg i Drwbwl

Gangiau Stryd a Llinellau Sirol

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Adnabod Arwyddion — Dangos Dewrder — Gofyn am Gymorth

Dyluniwyd y gwasanaeth hwn i godi ymwybyddiaeth am gangiau stryd a llinellau sirol. Yn y cyflwyniad hwn cawn ein cyflwyno i’r arwyddion y dylen ni fod yn ymwybodol ohonynt, a’r risgiau all pobl ifanc fod yn eu hwynebu mewn canlyniad i fod yn rhan o gangiau stryd.

Gweithio i atal camfanteisio troseddol

Mae Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru yn diogelu pobl ifanc rhag peryglon camfanteisio troseddol gan gangiau, yn cyflwyno sesiynau mewn ysgolion, gan gynnwys Rhedeg i Drwbl a’n gwers 11–14 oed Cwlwm Twyll

Cyflwyniad Gangiau Stryd a Llinellau Sirol

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer gweithwyr proffesiynol i’w defnyddio gyda dysgwyr rhwng 10–16 oed.

Llinellau Sirol - Rhedeg i Drwbl (PPTX)

Taflen wybodaeth llinellau sirol

Adnodd SchoolBeat dwyieithog sy’n cyflwyno gwybodaeth i ymarferfwyr a phwysleisio’r broblem Llinellau Sirol yng Nghymru. Mae’r daflen yn cynnwys yr arwyddion cyffredin y dylech chi edrych allan amdanynt pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu recriwtio gan gangiau, ac yn cynnig cyngor am beth i’w wneud os oes gennych unrhyw bryderon.

Taflen SchoolBeat County Lines (PDF)