Felly, Beth yw'r Broblem?
Bl6 Alcohol a Thoddyddion
Addysg Atal Troseddau
Mae'r disgyblion yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau fel parau a grwpiau i ddarganfod effeithiau niweidiol a chanlyniadau camddefnyddio alcohol a thoddyddion. Mae clip ffilm "Alcohol ar brawf" yn ysgogi trafodaeth am ymddygiadau Gwrthgymdeithasol, goryfed a'i effeithiau ar y gymuned. Maen nhw'n cael eu hannog i gadw meddwl a chorff yn ddiogel ac i gael parch tuag at eu hunain, eraill a'r gyfraith. Mae gwybodaeth yn cael ei roi am le i fynd am help.